English

Beth yw ein gwasanaeth Blwch Llythyrau?

Mae blwch llythyrau yn galluogi plant mabwysiedig i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd biolegol trwy lythyrau fel y gallant ddeall mwy am eu hanes personol a chadw cysylltiadau ag aelodau allweddol o’r teulu fel brodyr a chwiorydd.

Mae Blwch Llythyrau Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth rydyn ni’n ei gynnig i bob plentyn sydd wedi’i fabwysiadu trwy’r chwe awdurdod yng ngogledd Cymru.

Mae hwn yn drefniant personol a wneir rhwng y mabwysiadwyr a’r teulu biolegol i gyfnewid gwybodaeth – ac rydym yn hwyluso’r gwasanaeth hwn ar eu rhan. Mae’r rhieni mabwysiadol fel arfer yn gwneud hyn ar ran y plentyn / plant sydd wedi’u mabwysiadu. Ond wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na all plant gyfrannu. Mae gennym lawer o blant sy’n mwynhau cymryd rhan trwy gynnwys ôl-troed neu lun, neu weithiau hyd yn oed lythyr mewn llawysgrifen.

Rydym yn argymell bod llythyrau a dderbynnir gan deulu genedigaeth yn cael eu rhannu gyda’r plentyn mabwysiadol, neu’r plant, pan fyddant mewn oedran priodol i wneud hynny.

I blant mabwysiedig

Mae cyswllt blwch llythyrau yn brofiad cadarnhaol wrth helpu a chefnogi plant mabwysiedig. Mae’n helpu gyda:

I rieni mabwysiadol

I deulu genedigol

I deulu genedigolgall cyfnewid gwybodaeth yn gadarnhaol drwy flwch llythyrau helpu gyda:

Cysylltwch â’n gwasanaeth Blwch Llythyrau dros y ffôn, post neu e-bost:

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Tîm Cyswllt Blwch Llythyrau
3ydd Llawr Stryd Lambpit
Wrecsam
LL11 1AR

Ffôn: 01978 295311
E-bost: nwasletterbox@wrexham.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk