English

Pwy yw GMGC?

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yw’r gwasanaeth mabwysiadu lleol ar gyfer pobl sy’n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Ffurfiwyd GMGC yn 2009 ac mae’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam sy’n cynnal y gwasanaeth ac mae’n un o bum cydweithrediad mabwysiadu rhanbarthol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a dwy o Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol yng Nghymru.

Mae gweithio’n rhanbarthol yn ein helpu i ddod o hyd i deuluoedd newydd yn fwy effeithiol, lleoli plant yn gyflymach a gwella ein gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rhannu arfer gorau yn gwneud ein gwasanaethau hyd yn oed yn well. Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig y gefnogaeth a’r gwasanaeth sydd eu hangen arnoch chi pa bynnag gam rydych chi ynddo.

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau mabwysiadu:

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk