English

Cefnogaeth ôl-fabwysiadu

Rydym yn gyffrous ein bod yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu i blant a’u teuluoedd ledled Gogledd Cymru.

Rydym yn gwybod bod mabwysiadu yn rhoi llawer o foddhad, ond mae hefyd yn dod â rhai heriau ar hyd y ffordd. Dyna pam mae gennym dîm ymroddedig wrth law i gynnig ystod o wasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd trwy gydol eu taith fabwysiadu.

Bydd angen cyngor a / neu gefnogaeth ar lawer o deuluoedd sy’n mabwysiadu ar wahanol gamau o’u taith. Mae’n bwysig gwybod bod gan bob teulu sy’n mabwysiadu hawl i ofyn am asesiad o’u hanghenion cymorth mabwysiadu – nid oes angen i chi fod ar bwynt argyfwng cyn cysylltu â ni i gael help.

Mae pob teulu yn unigryw, felly bydd y gwasanaethau cymorth yn amrywio yn dibynnu ar angen ac amgylchiad yr unigolyn. Efallai y bydd angen gwybodaeth neu gyngor ychwanegol ar rai teuluoedd tra bydd eraill angen cefnogaeth wedi’i thargedu’n well fel yr hyn a ddarperir gan Raglen TESSA (Gwasanaethau Cymorth Addysg Therapiwtig wrth Fabwysiadu) a / neu’r Gwasanaeth ‘Connection’ (gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig).

Mae gennym hefyd Weithwyr Cymorth Therapiwtig Teulu sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol trwy ystod o ymyriadau therapiwtig. Trwy weithio’n uniongyrchol gyda phlant a’u teuluoedd, gallwn eu helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n eu hwynebu a’u cefnogi i adeiladu perthnasoedd cryfach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk