English

Y broses fabwysiadu

Mae dod yn rhiant trwy fabwysiadu yn haws ac yn gyflymach nag y byddech chi’n ei feddwl. Mae’r broses yno i sicrhau bod y mabwysiadu yn llwyddiant i chi a’r plentyn.

Cyn-gam un

Yn y cyfnod cynnar hwn, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau ar eich taith fabwysiadu.

Cam un

Amser cyfartalog: 2 fis

Ffocws cam un yw dysgu ychydig mwy amdanoch chi a’ch hanes. Ar y cam hwn, byddwn yn mynd trwy becyn gwybodaeth gyda chi ac yn gofyn am dystlythyrau.

Cam dau

Amser cyfartalog: 4 mis

Bydd cam dau’r broses yn eich paratoi ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol. O gwrdd â’r panel mabwysiadu i baru â phlentyn, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yno i’ch cefnogi trwy’r cam hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk