English

Hyfforddiant

Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi gynhwysfawr o gyrsiau cyn cymeradwyo, i sesiynau ar strategaethau magu plant, yn ogystal â hyfforddiant i ffrindiau a theulu mabwysiadwyr. Cyflwynir y cyrsiau hyn trwy gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb, sesiynau rhithwir ar-lein a thrwy ein llwyfannau e-ddysgu.

Mae sesiynau gorfodol y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu cwblhau cyn naill ai i’r Panel Mabwysiadu i’w cymeradwyo neu’r Panel Paru, sef:

Paratoi i fabwysiadu

Cynigir y cwrs paratoi fel rhan o’r broses asesu ac mae angen ei ddilyn yng ngham un. Bydd y cwrs yn helpu darpar fabwysiadwyr i:

Gwaith Taith bywyd

Nod cyffredinol Gwaith Taith Bywyd yw helpu plant i lunio naratif cyflawn o’u bywydau. Mae hyn yn cynnwys hanes eu bywyd a gwybodaeth am berthnasau, ffrindiau, gofalwyr, lleoedd y bu pobl yn byw ynddynt a digwyddiadau bywyd allweddol, ynghyd â chyflawniadau personol. Gall Gwaith Taith Bywyd hefyd helpu plant i gynllunio ar gyfer eu dyfodol o ganlyniad i ddeall eu gorffennol a’r effaith y mae wedi’i chael arnynt.

Effeithiau trais domestig ar blant

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu trawmateiddio trwy fyw gyda cham-drin domestig. Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddeall y materion allweddol sy’n wynebu’r plant hyn, a sut i’w helpu i ddatblygu gwytnwch a dod yn fwy abl i dyfu tuag at fywyd iach a chadarnhaol fel oedolyn.

 Ymlyniad a Thrawma

Mae plant sy’n cael eu mabwysiadu yn aml yn ystod eu profiadau bywyd cynnar wedi bod yn destun esgeulustod a chamdriniaeth. Oherwydd hyn mae gan blant fwy o anghenion iechyd emosiynol a meddyliol, yn ogystal â mwy o anawsterau ymddygiad na’r mwyafrif o blant. Mae eu hanawsterau yn cychwyn cyn iddynt gael eu mabwysiadu ac yn cael eu cyfeirio o fewn perthnasoedd ag oedolion. Mae mabwysiadu yn cynnig sefydlogrwydd, diogelwch a pherthynas dda a gall helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu ac aeddfedu’n emosiynol. Gall atgyweirio peth o’r difrod a wnaed a bod yn rhan annatod o’r broses iacháu. Mae deall sut rydyn ni’n cael ein hadeiladu, beth sy’n digwydd i ni trwy drawma plentyndod a sut gallwn ni wella, yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr i ni o sut y gallwn ni greu newid i’n plant.

Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws

Mae Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) yn set o ddiffygion geni meddyliol a chorfforol y gellir eu hatal yn llwyr, a achosir gan y fam genedigol yn yfed alcohol yn ystod beichiogrywdd. Mae’r difrod yn cael ei amlygu mewn anableddau ffisiolegol, dysgu ac ymddygiad yn yr unigolyn. Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddeall beth yw FASD, nodweddion corfforol a gwybyddol yr anhwylder a’r effaith y gall ei gael ar blant a’u teuluoedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk