English

Pryd mae’r gwasanaeth Blwch Llythyrau yn dechrau ac yn gorffen?

Mae cyswllt blwch llythyrau yn cychwyn ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu yn ystod y mis y cytunwyd arno ac mae’n parhau nes bod y plentyn yn 18 oed.

Gofynnwn i fabwysiadwyr ysgrifennu’r llythyr cyntaf at y teulu genedigol o fewn mis cyntaf i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu. Fel hyn, gall aelodau o’r teulu biolegol ymateb i’r pethau y mae’r mabwysiadwyr yn gyffyrddus yn siarad amdanynt. Mae hyn yn gosod strwythur cynnar i sicrhau bod pawb yn gyffyrddus â’r cyfathrebu sy’n digwydd.

Os oes angen i chi drafod unrhyw faterion neu newidiadau o ran cyswllt Blwch Llythyrau cyn y gorchymyn mabwysiadu, cyfeiriwch hwn at y Gweithiwr Cymdeithasol Gofal Plant. Ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu, rhaid cyfeirio pob ymholiad at y tîm Blwch Llythyrau. Byddwch yn cael cyfeirnod Blwch Llythyrau unigryw i’w ddefnyddio ar bob gohebiaeth.

Mae blwch llythyrau yn parhau hyd at ben-blwydd y plentyn / person ifanc yn 18 oed. Yna daw’r ffeil Blwch Llythyrau gyda chopïau o’r holl ohebiaeth o’r ddwy ochr yn rhan o’r cofnodion mabwysiadu. Rydym yn cadw’r rhain am 100 mlynedd o’r dyddiad y rhoddwyd y gorchymyn mabwysiadu.

Cysylltwch â’n gwasanaeth Blwch Llythyrau dros y ffôn, post neu e-bost:

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Tîm Cyswllt Blwch Llythyrau
3ydd Llawr Stryd Lambpit
Wrecsam
LL11 1AR

Ffôn: 01978 295311
E-bost: nwasletterbox@wrexham.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk