English

#DewisTeulu

Ni allwch newid eu gorffennol, ond gallwch wneud dewis sy’n newid eu dyfodol.

10 mis oed. 10 oed. Bachgen. Merch. Brawd. Chwaer. Pan fyddwch chi’n mabwysiadu, nid dewis plentyn yn unig ydych chi – rydych chi’n dewis teulu. Er nad oes unrhyw ffordd o ddewis hynodrwydd bach eich plentyn neu rai rhannau o’u personoliaeth – gallwch ddewis y pethau sydd bwysicaf.

Rydych chi’n dewis rhannu chwerthin pan fydd pethau’n mynd o chwith. Rydych chi’n dewis bod yno pan fydd atgof anodd yn cael ei ail-fyw. Efallai na fyddwch chi yno ar gyfer eu holl bethau cyntaf, ond gallwch chi wneud dewis bod yno ar gyfer yr eiliadau o bwys. Oherwydd dyna beth yw magu plant – dewis derbyn y plentyn sydd gennych chi, o’r da i’r rhai sydd ddim cystal.

A phan fyddwch chi’n mabwysiadu, mae’r dewisiadau hynny’n bwysig yn fwy nag erioed. Waeth beth fo’u hoedran, rhyw, os cânt eu mabwysiadu ar eu pennau eu hunain neu fel brodyr a chwiorydd – mae angen sylw, sicrwydd a diogelwch ychwanegol ar blant mabwysiedig oherwydd eu profiadau yn y gorffennol.

Mae #DewisTeulu yn ymgyrch newydd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) i agor meddyliau a chalonnau pobl i’r plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd. Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod wedi mabwysiadu neu wedi cael ei fabwysiadu, byddai NAS wrth ei bodd pe byddech chi’n rhan o’r ymgyrch a rhannu straeon eich teulu i annog eraill i ddewis mabwysiadu. Ewch i adoptcymru.com/dewisteulu

‘Rydyn ni wedi gorfod eu dysgu sut i dderbyn cariad.’

Mae Julia yn adrodd ei stori…

Mae Julia a’i gŵr wedi bod gyda’i gilydd ers eu harddegau. Erbyn eu tridegau cynnar pan nad oeddent wedi beichiogi’n naturiol, fe wnaethant benderfynu mabwysiadu yn lle ceisio am deulu trwy IVF. Ar y pryd, ni allai eu cartref dwy ystafell i fyny grisiau a dwy ystafell i lawr dderbyn mwy nag un plentyn felly ar ôl mabwysiadu eu mab yn 4 oed yn 2011 trwy Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fe wnaethant fabwysiadu eu merch bum mlynedd yn ddiweddarach.

“Rhaid i mi gyfaddef ein bod ni’n eithaf naïf pan ddechreuon ni’r broses, roeddwn i’n meddwl y byddent yn cwrdd â ni, yn gweld pa mor hyfryd ydyn ni a jest dweud ie. Doedd o ddim mor syml â hynny.

“Mae ein diwrnod cyntaf gyda’n mab yn sicr yn un i’w gofio. Y diwrnod y symudodd i mewn roedd yn rhedeg o gwmpas y lle yn gyffrous ac fe faglodd o a syrthio i gornel y bwrdd coffi a thorri o dan ei lygad. Fe wnes i ffonio’r gwasanaeth ar unwaith ac ar ôl rhoi’r holl fanylion iddyn nhw, roedd yna saib a dywedodd y gweithiwr cymdeithasol, “ai dim ond heddiw ddaeth o i fyw gyda chi?” Doeddwn i ddim yn gwybod lle i roi fy hun!

“Roedd ein diwrnod cyntaf gyda’n merch ychydig yn llai dramatig ond heb fod yn llai emosiynol. Roeddwn ni’n chwarae ac eisteddodd ar ar lin fy ngŵr a chyhoeddi ‘fi’n eistedd ar lin dada!’ Roedd yn foment hyfryd.

“Mae gan y ddau blentyn eu hanawsterau, arferai ein mab ddangos ei ddicter trwy ruo yn wynebau pobl. Fe wnaethon ni feddwl unwaith i ni fabwysiadu’r ail dro bod gennym bopeth dan reolaeth, ond fe ddioddefodd ein merch esgeulustod eithafol a hi oedd y plentyn bach mwyaf annibynnol i mi ei gyfarfod erioed. Nid oedd popeth a weithiodd gyda’n mab yn gweithio gyda hi. Roedd yn rhaid i ni ei dysgu ei bod hi’n iawn i ni fod wrth y llyw a gofalu amdani.

“Mae’n dorcalonnus bod plant mabwysiedig yn mynd trwy gymaint, ond rydyn ni wedi cael cefnogaeth trwy’r amser. Mae llawer o’n ffrindiau wedi mabwysiadu, ac mae llawer o ffrindiau ein plant wedi cael eu mabwysiadu hefyd. Fe wnaethon ni hefyd fynychu therapi chwarae gyda’r ddau ohonyn nhw pan oedden nhw’n ifanc i’w helpu i brosesu’r emosiynau cudd oedd ganddyn nhw, ac rydyn ni’n dal i ddod â rhai ohonyn nhw allan o dro i dro pan fydd ei angen.

“Mae ein mab yn ei arddegau rŵan ac mae ganddo ddealltwriaeth dda o’i fywyd sy’n helpu ei chwaer. Rydyn ni’n siarad am sut roedd yn teimlo mewn rhai sefyllfaoedd pan rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gwrando, felly mae hi’n gwybod nad yw hi ar ei phen ei hun, bod ganddi gysylltiad a rennir gyda’i brawd, ac nad ydyn ni’n mynd i adael pan fydd yr amseroedd yn anodd.

“Rydyn ni’n siarad yn agored â’n plant am eu mabwysiadu a’u teuluoedd biolegol. Nid ydym am iddynt guddio’r emosiynau hynny. Mae’n hawdd meddwl, yn enwedig gyda phlant ifanc, nad ydyn nhw’n cofio, neu y byddan nhw’n tyfu allan ohono. Rydyn ni’n eu caru gymaint ond yr hyn a’n trawodd fwyaf oedd nad ydyn nhw’n gwybod sut i gael eu caru ac rydyn ni wedi gorfod eu dysgu sut i dderbyn cariad.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk