English

Mabwysiadu gyda ni

Croeso i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, a elwir yn GMGC.

Ein blaenoriaeth yw helpu plant i ddod o hyd i gartref diogel a sefydlog gyda theulu i’w caru a gofalu amdanynt.

Pwy all fabwysiadu?

Mae mabwysiadu plentyn yn benderfyniad sy’n newid bywyd, sy’n llawn eiliadau gwerth chweil, ond nid yw heb ei heriau. Rydyn ni yma i’ch helpu a’ch cefnogi trwy bob cam o’r siwrnai gyffrous hon.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u statws perthynas, rhywioldeb, credoau neu ethnigrwydd. Os oes gennych gartref diogel a chariadus, gallwn weithio gyda chi i lunio’ch sgiliau a’ch rhinweddau i’ch helpu i baratoi i ddod yn rhiant trwy fabwysiadu.

Rydym yn chwilio am bobl:

Aeddfed a meddylgar

Hapus i wneud lle i blentyn yn ei fywyd a'i gartref

Hyblyg yn eu hagwedd tuag at fywyd

Penderfynol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn, am oes

Barod am her

Cefnogaeth dda gan deulu a ffrindiau

Yn agored i gyfleoedd i fyfyrio a chael hyfforddiant a chefnogaeth broffesiynol

Yn barod i ddelio gyda phlant ag ymddygiadau heriol

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk