Dyma rai adnoddau defnyddiol i’ch helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl cyn, yn ystod ac ar ôl y broses fabwysiadu.
Darllen, gwylio a gwrando…
Ni allwch newid eu gorffennol, ond gallwch wneud dewis sy’n newid eu dyfodol. Deall mwy am y plant sy'n aros amdanoch.
Mae Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yn wrandawiad craff a thwymgalon gan wahanol fabwysiadwyr ledled Cymru. Cewch glywed gan y bobl sydd eisoes wedi bod yno a'i wneud.
Nod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw gwella gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru ac mae'n hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau wrth fabwysiadu.
Mae Adoption UK yn darparu cefnogaeth, cymuned ac eiriolaeth i rieni sy'n mabwysiadu.
Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (CoramBAAF) yn cefnogi anghenion datblygiad proffesiynol ymarferwyr trwy addysg a hyfforddiant.
Mae DEWIS yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sy'n mabwysiadu ar bob cam o'u taith fabwysiadu.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn darparu cefnogaeth a chyngor diduedd am ddim ar ystod o faterion teuluol fel costau gofal plant, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hamdden.
Mae dod yn fabwysiadwr yn gyflymach ac yn haws nag y byddech chi'n ei feddwl. Darganfyddwch fwy am gamau allweddol y broses.
Rydyn ni'n cael llawer o gwestiynau am fabwysiadu, felly efallai bod gennym ni'r ateb i unrhyw gwestiynau sydd gennych chi eisoes.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk