Yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru mae gennym weithiwr cymdeithasol Gwaith Taith Bywyd a’i rôl yw helpu i wella darpariaeth, cynnwys a defnydd Llyfrau Taith Bywyd i blant sy’n mynd i’w mabwysiadu.
Gwneir hyn trwy ddarparu cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol, mabwysiadwyr, gofalwyr maeth a phlant er mwyn cyflawni’r deunydd Taith Bywyd gorau posibl i’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.
Mae’r Gwaith Taith Bywyd yn elfen hanfodol o fabwysiadu ac mae’n sylfaenol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddeall eu straeon ac i gael sgwrs agored barhaus i’r plentyn a’i deulu am eu stori trwy gydol eu hoes.
Ychydig mwy am ein gwasanaethau…
Deall effaith trawma ar ddatblygiad plentyn a sut y gall rhianta yn therapiwtig wella bywyd teuluol.
Cymorth ôl-fabwysiadu i deuluoedd sy'n wynebu her gyfredol yn eu bywyd teuluol.
Grwpiau cymorth sy'n briodol i'w hoedran yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk