English

Beth yw TESSA?

Mae Gwasanaethau Therapiwtig, Addysg a Chefnogaeth mewn Mabwysiadu (TESSA) yn cefnogi ac yn hyrwyddo rhianta therapiwtig i roi dealltwriaeth o effaith trawma ar ddatblygiad plentyn a sut y gall rhianta yn therapiwtig wella bywyd teuluol.

Mae TESSA yn wasanaeth cymorth i rieni Mabwysiadol a’u plentyn / plant mabwysiedig. Mae’n brosiect ledled y wlad sy’n cael ei redeg gan Adoption UK, a ariennir gan Gronfa’r Loteri Gymunedol dros bum mlynedd. Mae’n gweithio gyda theuluoedd mabwysiadol i greu cynlluniau cymorth pwrpasol, i gynnwys:

Y nod yw helpu i rymuso a galluogi teuluoedd, gan greu’r amodau ar gyfer gwell iechyd a llesiant teuluol.

Mae TESSA yn wasanaeth cymorth ymyrraeth lefel gynnar i ganolig, gyda’r nod o helpu teuluoedd cyn iddynt gyrraedd pen eu tennyn ac nid yw’n addas ar gyfer teuluoedd sydd mewn argyfwng eithafol. Gall TESSA weithio ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth a ddarperir gan yr awdurdod lleol er mwyn helpu teuluoedd o bob ongl os oes angen. 

Gellir gwneud atgyfeiriadau yn uniongyrchol i’r tîm ôl-fabwysiadu a byddant yn cael eu hadolygu am eu haddasrwydd gan Gydlynydd TESSA a fydd yn cwrdd â’r teulu i gwblhau’r broses atgyfeirio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk