English

Beth yw Cydlynydd Gwaith Taith Bywyd?

Mae’r Cydlynydd Gwaith Taith Bywyd yn gweithio gyda theuluoedd i ddatblygu deunyddiau Taith Bywyd i helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu stori trwy sgwrs agored.

Yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru mae gennym weithiwr cymdeithasol Gwaith Taith Bywyd a’i rôl yw helpu i wella darpariaeth, cynnwys a defnydd Llyfrau Taith Bywyd i blant sy’n mynd i’w mabwysiadu.

Gwneir hyn trwy ddarparu cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol, mabwysiadwyr, gofalwyr maeth a phlant er mwyn cyflawni’r deunydd Taith Bywyd gorau posibl i’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Mae’r Gwaith Taith Bywyd yn elfen hanfodol o fabwysiadu ac mae’n sylfaenol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddeall eu straeon ac i gael sgwrs agored barhaus i’r plentyn a’i deulu am eu stori trwy gydol eu hoes.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk