Gall y Tîm cyswllt gynnig cefnogaeth ac arweiniad i chi gydag ysgrifennu llythyrau naill ai dros y ffôn neu trwy ymweld â chi’n bersonol.
Os ydych chi’n cael trafferth darllen neu ysgrifennu, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich helpu i ddarllen ac ysgrifennu’ch llythyrau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu os oes angen cyfieithu’r llythyrau rydych chi’n eu hanfon neu’n eu derbyn.
Dyma ragor o wybodaeth am gyswllt parhaus â’r teulu biolegol…
Mae Blwch Llythyrau yn wasanaeth a gynigir i bob plentyn sydd wedi'i fabwysiadu trwy'r chwe awdurdod yng ngogledd Cymru i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd biolegol trwy lythyrau.
Mae'r rhieni mabwysiadol fel arfer yn gwneud hyn ar ran y plentyn / plant sydd wedi'u mabwysiadu, gan ganiatáu i blant gadw cysylltiadau ag aelodau allweddol o'r teulu.
Mae cyswllt blwch llythyrau yn cychwyn ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu yn ystod y mis y cytunwyd arno ac mae'n parhau nes bod y plentyn yn 18 oed.
Mae cadw mewn cysylltiad ag aelodau o'r teulu biolegol yn brofiad cadarnhaol i blant mabwysiedig. Darganfyddwch fwy am gadw mewn cysylltiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth Blwch Llythyrau.
Gall cyfathrebu â theulu genedigol eich plentyn ymddangos yn frawychus, ond gall fod yn brofiad hynod gadarnhaol i bawb. Mae gennym ddigon o gyngor ac arweiniad ar gyfer cadw mewn cysylltiad â theuluoedd genedigol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk