Yn y cyfnod cynnar hwn, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau ar eich taith fabwysiadu.
Amser cyfartalog: 2 fis
Ffocws cam un yw dysgu ychydig mwy amdanoch chi a’ch hanes. Ar y cam hwn, byddwn yn mynd trwy becyn gwybodaeth gyda chi ac yn gofyn am dystlythyrau.
Amser cyfartalog: 4 mis
Bydd cam dau’r broses yn eich paratoi ar gyfer dod yn rhiant mabwysiadol. O gwrdd â’r panel mabwysiadu i baru â phlentyn, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yno i’ch cefnogi trwy’r cam hwn.
Mathau eraill o fabwysiadu…
Os ydych chi'n byw mewn llys-deulu, darganfyddwch fwy am y broses o fabwysiadu plant eich partner a'r ffactorau ychwanegol y mae angen i chi eu hystyried.
Os oes gennych gysylltiadau â diwylliant, hanes ac iaith gwlad arall, neu wybodaeth amdani, yna efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu plentyn o'r wlad honno. Darganfyddwch fwy am y broses hon.
Plant ifanc, plant hŷn, brodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol. Darganfyddwch fwy am y mathau o blant sy'n aros i'w bywydau newid.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk