Plant ifanc, plant hŷn, brodyr a chwiorydd, plant ag anghenion ychwanegol, mae yna lawer o wahanol fathau o blant yn aros i’w bywydau newid.
O brofiad, gyda’r gefnogaeth gywir, mae ein mabwysiadwyr yn aml yn fwy abl nag y maen nhw’n meddwl yn wreiddiol i rianta plentyn ag anghenion mwy cymhleth.
Cwrdd â rhai o’r mathau o blant sy’n aros…
Mae Beca, Sofia a Sian yn dair chwaer. Mae Beca yn 4 oed, ac mae Sian a Sofia yn efeilliaid 18 mis oed.
Mae Jacob ac Aled yn frodyr. Mae Jacob yn 4 oed ac mae Aled yn 2. Mae gan y ddau fachgen wallt golau, llygaid mawr glas a gwenau enfawr sy'n goleuo'r ystafell.
Mae Jayden yn fachgen bach hapus, bywiog a direidus sydd wedi datblygu perthynas hyfryd, agos gyda'i deulu maeth.
Mae Seren yn ferch fach 9 mis oed sy'n hapus, yn fyrlymus ac yn gymdeithasol. Mae ganddi gysylltiad agos gyda'i theulu maeth, sy'n ei disgrifio fel hyfrydwch i ofalu amdani.
Mae Siobhan yn ferch fach hardd 23 mis oed gyda gwallt melyn a llygaid mawr glas. Mae hi'n ferch fach chwilfrydig iawn sy'n giglo, chwerthin a rhedeg o gwmpas pan yn hapus.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk