English

Mabwysiadu rhyngwladol

Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu plentyn o wlad arall a dylai fod yn wlad y mae gennych gysylltiadau â hi, neu wybodaeth am y diwylliant, yr hanes a’r iaith.

Mae’n bwysig bod plentyn yn sefydlu ac yn cynnal cysylltiadau â gwlad ei eni ac i rieni mabwysiadol ystyried materion hunaniaeth a gwahaniaethu posibl yn y dyfodol.

Mae’r broses asesu yn debyg i’r broses o fabwysiadu plentyn yn y DU ond ar ôl ei chwblhau, anfonir yr asesiad at Lywodraeth Cymru i gael tystysgrif cymeradwyo. Anfonir y dystysgrif hon at yr asiantaeth yn y wlad o’ch dewis a bydd plentyn sy’n cyfateb i’r proffil yn eich asesiad yn cael ei nodi. Fel rhan o’r cyflwyniadau, bydd angen i chi deithio i’r wlad lle mae’r plentyn yn preswylio.

Weithiau efallai eich bod wedi adnabod plentyn cyn i’r broses asesu ddechrau ac mae’n bwysig deall efallai na fydd cael ei gymeradwyo fel mabwysiadwr yn golygu y gellir dod â’r plentyn i’r DU a bydd angen i Asiantaeth Ffiniau’r DU fod yn fodlon bod y mynediad yn briodol.

Mae goblygiadau cost a bydd yn rhaid i ymgeiswyr gogledd Cymru sy’n dymuno cael eu hasesu fel mabwysiadwyr plentyn mewn gwlad arall dalu ffi am i’r asesiad gael ei gwblhau. Mae hefyd yn bwysig cofio costau ychwanegol teithio, ffioedd cyfreithiol ac ati.

Gweler y ddolen am ragor o wybodaeth: www.gov.uk/child-adoption/adopting-a-child-from-overseas

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk