Ffurfiwyd GMGC yn 2009 ac mae’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam sy’n cynnal y gwasanaeth ac mae’n un o bum cydweithrediad mabwysiadu rhanbarthol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a dwy o Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol yng Nghymru.
Mae gweithio’n rhanbarthol yn ein helpu i ddod o hyd i deuluoedd newydd yn fwy effeithiol, lleoli plant yn gyflymach a gwella ein gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rhannu arfer gorau yn gwneud ein gwasanaethau hyd yn oed yn well. Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig y gefnogaeth a’r gwasanaeth sydd eu hangen arnoch chi pa bynnag gam rydych chi ynddo.
Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau mabwysiadu:
Ychydig bach mwy amdanom ni…
"Mae’r angen unigol sydd gan blentyn am gartref cariadus sy'n parchu ei hunaniaeth ac yn cynnig ymdeimlad cadarnhaol o les wrth wraidd gweithgarwch yr asiantaeth unigol yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru."
Yn dod cyn hir
Deall effaith trawma ar ddatblygiad plentyn a sut y gall rhianta yn therapiwtig wella bywyd teuluol.
Cymorth ôl-fabwysiadu i deuluoedd sy'n wynebu her gyfredol yn eu bywyd teuluol.
Grwpiau cymorth sy'n briodol i'w hoedran yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.
Cyflawni'r deunydd Taith Bywyd gorau posibl i blentyn neu berson ifanc.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.
Rhadffôn
0800 085 0774
E-bost
adoption@wrexham.gov.uk