English

Beth yw Cydlynydd ‘Connect’ Person Ifanc?

Mae Cydlynydd ‘Connect’ y Person Ifanc yn datblygu ac yn sefydlu grwpiau cymorth sy’n briodol i’w hoedran yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig.

Gan gydweithio ag Adoption UK, bydd Cydlynydd ‘Connect’ y Person Ifanc yn meithrin perthynas gadarnhaol â phlant mabwysiedig, ac yn darparu gwasanaeth yn seiliedig ar eu hanghenion, naill ai ar sail un i un neu o fewn amgylchedd grŵp ‘Connected’ diogel.

‘Connected’ yw enw gwasanaeth pwrpasol ar gyfer plant mabwysiedig rhwng 7 a 10 oed a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Nod grwpiau misol yw gwella hunanhyder plant a phobl ifanc, adeiladu hunan-barch, datblygu sgiliau bywyd a lleihau’r ymdeimlad o unigedd y mae rhai plant mabwysiedig yn ei brofi. Cyflawnir hyn trwy gynnig ystod o weithgareddau fel celf, drama, sgiliau syrcas, sesiynau bwyta / coginio iach a cherddoriaeth i enwi ond ychydig.

Yn ogystal â gweithgareddau hwyliog a chreadigol, mae’r bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed hefyd yn cael cyfle i helpu i gynhyrchu deunydd i’w cyfoedion, i siarad â gweithwyr proffesiynol a darpar fabwysiadwyr am eu profiadau fel pobl fabwysiedig ac i gael eu llais a’u barn wedi’u clywed gan gymdeithas ehangach.

Darperir y gwasanaeth trwy gydweithrediad unigryw rhwng Adoption UK a phum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol Cymru ac fe’i hariennir gan grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Gellir atgyfeirio i’r gwasanaeth ôl-fabwysiadu gyda chaniatâd y person ifanc a theuluoedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu ddim ond eisiau gofyn rhai cwestiynau i ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch hefyd siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol ac yna gallwn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Rhadffôn

0800 085 0774

E-bost

adoption@wrexham.gov.uk